Ystafell Tap

Oriau Agored Ystafell Tap

Sun - Wed
Closed
Thu - Sat
-

Os hoffech chi ddod i flasu ein cwrw o'r ffynhonnell, dewch i'n hystafell dap! Rydym yn cynnig dewis eang o’n cwrw ar dap, i’w fwynhau gyda ffrindiau, teulu, a ffrindiau sydd eto i’w gwneud! Rydym hefyd yn cynnig detholiad o ddiodydd meddal, gwinoedd, seidr a gwirodydd lleol, yn ogystal â byrbrydau bar.

  • Ydych chi'n agored?

    Gwiriwch yr amseroedd agor uchod - os am unrhyw reswm rydym ar gau yn ystod yr amseroedd hyn byddwn yn postio ar gyfryngau cymdeithasol. Fel arall mae'n debyg ein bod ni'n agored - er gwaethaf sut olwg fyddai arno o'r tu allan! Rhowch hwb i'r drws beth bynnag - does neb yn gwylio.

  • Oes angen i mi cadw bwrdd?

    Nid oes angen cadw bwrdd - hyd yn oed os yw'r lle'n edrych yn llawn, mae pobl fel arfer yn hapus i rannu bwrdd! Os hoffech gadw bwrdd o hyd, mae croeso i chi ein ffonio. 

    01407 769651
  • Ydych yn gadael cŵn i fewn?

    Mae croeso i gŵn! Mae gennym bowlenni dŵr a bisgedi ar gael.

  • Ydych yn gadel teuluoedd i fewn?

    Mae croeso i deuluoedd! Mae gennym ni ddiodydd meddal a gemau ar gael i'r plantos.

  • Ydych yn gweini bywd?

    Nid ydym yn gweini bwyd, ond mae croeso i chi ddod â'ch bwyd eich hun i mewn, neu archebu o un o'r nifer o fwydlenni tecawê sydd gennym ar gael!

    O bryd i'w gilydd byddwn yn gwahodd tryciau bwyd i barcio y tu allan i'r ystafell tap - edrychwch ar y dudalen Be Sy' 'Mlaen!

    Be Sy' 'Mlaen
  • Sut a'i fynd adra?

    Rydyn ni rownd y gornel o'r safle bws yn Morrison's, ac 20 munud ar droed o'r orsaf drenau. Gofynnwch wrth y bar am rifau tacsi.

    Mae gennym de a choffi am ddim i yrwyr dynodedig!

Share by: